Castell Biwmares
Castell Biwmares
Castell godidog enfawr syn gwbl gymesur. Y castell olaf yn rhaglen adeiladu fawr Edward I yng ngogledd Cymru...bechod na chafodd ei orffen!
Gydag arian yn brin ar Albanwyr yn achosi mwy a mwy o broblemau ir frenhiniaeth yn Lloegr, roedd ei afael dynn ar Gymru yn dechrau llacio. Bun rhaid i Edward neu Longshanks fel yi gelwid oherwydd ei daldra anhygoel, ganolbwyntio ar bethau eraill a dyna ddiwedd ar y gwaith...
Yn dechnegol berffaith ac wedii adeiladu ar ffurf cynllun muriau o fewn muriau cywrain, roedd Castell Biwmares yn y 13eg ganrif o ran datblygiadau technolegol yn cyfateb i long ofod yn glanion ddiseremoni ar Ynys MÔn heddiw.
Gallwch gwyno fel arfer os yw cynlluniau eich cymydog i roi estyniad ar adeilad ychydig yn ormodol. Cafodd y broblem ei datrys mewn ffordd wahanol iawn saith canrif yn Ôl. Gorfodwyd poblogaeth Llanfaes i symud 12 milltir (19km) i ffwrdd i Niwbwrch fel y gellid adeiladu castell newydd Edward. A oedd unrhyw wrthwynebiad? Na, taw piau hi...gallech gollich pen yn llythrennol!
Castell Biwmares Statistics: 1 click throughs, 1510 views since start of 2024
Attraction in Biwmares, Ynys Mon Isle of Anglesey
Entrance Charge
- Oedolion £3.60 Gostyngiadau £3.20
- Teulu £10.40 (2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed)
- Plant o dan 5 oed AM DDIM
- Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Prisiaun ddilys tan 31ain Mawrth 2010.
Opening Times
Mynediad olaf 30 munud cyn cau. 1 Ebr-31 Hyd 09 9am-5pm yn ddyddiol 1 Tach 09-31 Maw 10 Llun-Sad 9.30am-4pm, Sul 11am-4pm Ar gau 24, 25, 26 Rhag, 1 Ion
-
Castell BiwmaresBiwmares, Ynys Mon Isle of Anglesey LL58 8AP UKphone: 01248 810361 fax:Our Website
News & Special Offers
Gofynnwch am fynediad am ddim os ydych yn byw yng Nghymru ac yn 60 oed neu'n hyn neu'n 16 oed neu'n iau.