Fron Goch
Am bob person gyda bysedd gwyrdd mae un arall heb unrhyw ddiddordeb mewn garddio o gwbl. Felly, beth wnewch chi efo grŵp â chymysgedd o bobl fel hyn?
Mynd â nhw i Ganolfan Arddio Fron Goch, ger Caernarfon a chael diwrnod allan perffaith!
Mae digon yn y Ganolfan i ddiddori garddwyr, mae ganddi enw rhagorol ac maen tyfu llawer oi phlanhigion ei hunan. Os ydych yn lwcus, efallai y cewch gip ar arddangosiad, neu, os nad hynny, mae ein staff gwybodus bob amser yn fodlon helpu
Mae digon ir rhai efo bysedd pinc yn hytrach na gwyrdd ei wneud yn Fron Goch hefyd. Mae gan y ganolfan ei chaffi ei hunan ac maen falch iawn oi bwyd cartref a siop fferm syn gwerthu cynnyrch lleol i chi ei goginio yn eich cegin gartref.
Mae lleoliad Canolfan Arddio Fron Goch yn eithaf arbennig. Os byddwch yn clywed corn injan stêm ar eich ymweliad, trên Rheilffordd Ucheldir Eryri fydd honno, maen rhedeg yn agos iawn at y ganolfan wrth ddringo o Gaernarfon i fynyddoedd Eryri.
A gallwch gael golwg well ar y trên os neidiwch ar lwybr beiciau LÔn Eifion syn rhedeg ger y rheilffordd. Mewn gwirionedd, mae Fron Goch yn lle perffaith i ymweld ar gefn beic ond byddai basged yn braf i ddal yr holl blanhigion!
Mae LÔn Eifion yn rhan o lwybr beic cenedlaethol LÔn Las Cymru syn rhedeg am 250 milltir o Gaergybi trwy Gaernarfon i Gaerdydd.
Maer wlad o amgylch Fron Goch yn berffaith ar gyfer cerdded a beicio. Mae golygfeydd gwych gerllaw o gastell Caernarfon, ymhell o dyrfar dref. Dilynwch y lÔn ac fe ddewch at ddarn diarffordd o Afon Menai lle gellwch weld Fort Belan ac Abermenai ar Ynys MÔn.
Yma hefyd y mae Clwb Golff Caernarfon, cwrs 18 twll gyda golygfeydd ysblennydd o fin y dŵr.
Ond os yw Canolfan Arddio Fron Goch wedich ysbrydoli, bysedd gwyrdd ai peidio, gallwch ymweld â gerddi hanesyddol Parc Gwledig Glynllifon gydai lwybrau drwyr goedwig, cwrs cyfeiriannu a helfeydd trysor.
Mae Canolfan Arddio Fron Goch un filltir or A487, ir de o Gaernarfon (trowch ir dde 100 llath or cylchfan). Rydym ar agor o 9.00am tan 6.00pm chwe diwrnod yr wythnos ac o 10.00am tan 4.30pm ar y Sul.
Am ragor o wybodaeth ewch i website link neu ffoniwch 01286 672212.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Ganolfan Arddio Fron Goch.
Fron Goch Statistics: 97 click throughs, 1975 views since start of 2025
Attraction in Caernarfon Gwynedd
Entrance Charge
Opening Times
-
Fron GochPant Road Caernarfon Gwynedd LL54 5RL UKphone: 01286 678912 fax:Our Website
News & Special Offers